send link to app

Brawddegau


4.8 ( 7968 ratings )
Juegos Educación Educación Puzzle
Desarrollador Atebol Cyfyngedig
Libre

Y gêm ydy cwblhau’r brawddegau mor gyflym ag sy’n bosib ... cyn i’r cloc dy guro!
Mae 6 gêm i’w chwarae:
• Cwestiwn...cwestiwn...cwestiwn...
• Heddiw...
• Beth wyt ti’n feddwl o...?
• Yr ysgol
• Yr ardal
• Ddoe ac yfory
Mae 3 Haen o fewn pob gêm, mae haen 2 yn anoddach na haen 1. Mae haen 3 yn anoddach na haen 2.
Rhaid i ti gwblhau’r brawddegau trwy glicio ar y bocsys ar waelod y sgrin.
Rwyt ti’n ennill pwyntiau am bob ateb cywir. Rwyt ti’n colli pwyntiau am bob ateb anghywir!
Ar ôl cwblhau’r frawddeg yn gywir bydd ‘tic’ yn ymddangos wrth ymyl yr ateb. Bydd y frawddeg nesaf yn dilyn. Mae’n rhaid cael 6 allan o 10 brawddeg yn gywir i agor yr Haen nesaf - dyma sut mae symud ymlaen i Haen 2 ac yna i Haen 3.
Rwyt ti’n cael bonws am ateb yn gywir. Os wyt ti’n cwblhau y 10 brawddeg cyn i’r cloc dy guro rwyt ti’n ennill bonws amser.
Wyt ti angen help? Mae seren oren ar ochr chwith y sgrin i helpu … ond rwyt ti’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr ar y sgôrfwrdd ar ddiwedd y gêm.